OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 2453 (Cy. 267) (C. 96)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 5) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw'r pumed gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”).
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i adran 11 o'r Mesur ac eithrio is-adrannau (3) a (4).
Mae adran 11(1) yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn ei ardal.
Mae adran 11(2) yn darparu bod Gweinidogion Cymru drwy reoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion y mae'n rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth iddynt wrth asesu digonolrwydd y cyfleoedd chwarae yn ei ardal; y dyddiad erbyn pryd y dylai asesiad cyntaf gael ei gyflawni; amlder asesiadau; adolygu asesiadau; a chyhoeddi asesiadau.
Mae adran 11(5) yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i anghenion plant sy'n anabl ac i anghenion plant o wahanol oedrannau.
Mae adran 11(6) yn darparu diffiniadau o “chwarae” a “digonol”.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi cael eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
O.S. Rhif |
Adran 57 |
1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
Adran 58(1)–(5), (6)(a), (7)–(14) |
1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
Adrannau 59–65 |
1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
Adrannau 19–56 |
1 Ebrill 2011 |
O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1-18, paragraffau 21-28 |
1 Ebrill 2011 |
O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adran 73 ac Atodlen 2 (i'r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006) |
1 Ebrill 2011 |
O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adran 2 (i'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau Cymreig) |
10 Ionawr 2011 |
O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134) |
Adrannau 4, 5, 6, 17, 18 |
10 Ionawr 2011 |
O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134)
|
Adrannau 58(2), 60(1), 62(2), a 63 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym
|
27 Ionawr 2012
|
O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
Rhan 3 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) ac eithrio paragraffau (b), (c), a (d) o adran 58(6) |
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
Rhan 3 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) ac eithrio paragraffau (b), (c), a (d) o adran 58(6) |
31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)
|
O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
Adran 12
|
31 Ionawr 2012 |
O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 2453 (Cy. 267) (C. 96)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 5) 2012
Gwnaed 22 Medi 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([1]), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 5) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Y diwrnod penodedig
2. 1 Tachwedd 2012 yw'r diwrnod penodedig i adran 11 o'r Mesur (dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant) ddod i rym ac eithrio is-adrannau (3) a (4).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2012